Rhif y ddeiseb: P-06-1236

Teitl y ddeiseb: Dylai menywod gael ei sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari.

Testun y ddeiseb:

Dylai menywod gael ei sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari.

Mae fy mam wedi cael diagnosis diweddar o ganser sylfaenol yr ofari a chanser eilaidd y peritonewm. Pe bai menywod yn cael eu sgrinio’n rheolaidd gyda’r prawf gwaed CA125 byddai modd canfod arwyddion cynnar, fel maent yn sgrinio ar gyfer canser ceg y groth a mamogramau ar gyfer canser y fron. Mae canser yr ofari yn ganser tawel, a phan mae menywod yn cael unrhyw symptomau mae’r canser fel arfer wedi cyrraedd cam mwy datblygedig.  Byddai canfod y canser yn gynnar yn golygu y gellid trin menywod yn gynt ac osgoi marwolaethau.

 

 


1.        Cefndir

Siarad am ganser.

Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Cancer Research UK yn dangos mai:

§    canser yr ofari yw’r chweched canser mwyaf cyffredin ymhlith merched yn y DU, ac mae’n cyfrif am 4% o’r holl achosion newydd o ganser ymhlith merched (2016-2018). Ar gyfartaledd, roedd 375 o achosion newydd bob blwyddyn yng Nghymru (rhwng 2016 a 2018);

§    canser yr ofari yw’r chweched achos mwyaf cyffredin o farwolaeth oherwydd canser ymhlith merched yn y DU, ac mae’n cyfrif am 5% o’r holl farwolaethau oherwydd canser ymhlith merched (2018). Yng Nghymru, bu farw 224 o ferched yn 2018 oherwydd canser yr ofari;

§    mae 71.7% o ferched yn goroesi canser yr ofari am flwyddyn o leiaf, ond dim ond 42.6% sy’n goroesi am bum mlynedd neu ragor.

Gall symptomau canser yr ofari fod yn anelwig ac yn debyg i gyflyrau eraill sy’n fwy cyffredin ac yn llai difrifol.  Gall hyn ei gwneud hi'n anodd cael diagnosis cynnar, cyn i'r canser ledu. Fel yn achos canserau eraill, mae diagnosis cynnar yn arwain at ganlyniadau gwell. Yn ôl  Cancer Research UK:

More than 9 in 10 women diagnosed with ovarian cancer at its earliest stage survive their disease for at least 5 years. This falls to just over 1 in 10 women when ovarian cancer is diagnosed at the most advanced stage.

Mae Cymorth Canser Macmillan hefyd yn rhoi rhagor o wybodaeth a chymorth i’r rhai sydd â chanser yr ofari.

Ar hyn o bryd, nid yw Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC) , sy’n rhoi cyngor annibynnol, arbenigol i weinidogion a’r GIG ym mhob un o bedair gwlad y DU, yn argymell y dylid sgrinio poblogaethau am ganser yr ofari.  

Deiseb flaenorol ynghylch sgrinio ar gyfer canser yr ofari 

Cafodd deiseb ar y mater hwn ei hystyried gan Bwyllgor Deisebau’r Pedwerydd Cynulliad y 2016 -   P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (prawf gwaed CA125). Roedd y ddeiseb yn galw am:

§    raglen sgrinio genedlaethol i ferched dros 50 oed, gan ddefnyddio prawf gwaed CA125;

§    codi ymwybyddiaeth meddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill o ganser yr ofari a’i symptomau.

§    codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yr ofari/symptomau.

Cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau’r Pumed Cynulliad adroddiad ar ei drafodaeth ar y ddeiseb ym mis Chwefror 2017. Nodwyd y canlynol:

At ei gilydd, er bod y deisebydd wedi rhoi tystiolaeth gref o bwysigrwydd diagnosis cynnar a thrin canser yr ofari yn gynnar, rydym yn cydnabod nad yw’r dystiolaeth gyfredol yn cefnogi’r syniad o gyflwyno rhaglen sgrinio poblogaethau, gan ddefnyddio naill ai’r prawf gwaed CA125 neu ddull arall.

Tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw at farn elusennau canser, nad oeddent yn gefnogol i’r syniad o gyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari, gan nad oedd y dystiolaeth hyd yn hyn yn dangos y byddai’n lleihau marwolaethau oherwydd canser yr ofari. Dywed yr adroddiad:

Rydym yn credu bod y sefyllfa bresennol wedi’i chrynhoi’n daclus yn y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Ovarian Cancer Action:

“Screening tests can have a range of unintended consequences from anxiety to unnecessary surgery in extreme cases. We believe that currently testing levels of CA125 is not yet specific or accurate enough to risk being used as a national screening tool. Funding would be better spend at this time on a national symptoms public awareness campaign.”

Tynnodd adroddiad y Pwyllgor sylw hefyd at dreial UKCTOCS sy’n mynd rhagddo i ystyried sgrinio poblogaethau’n gyffredinol ar gyfer canser yr ofari (mae rhagor o wybodaeth isod). Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r sefyllfa’n ofalus, a rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw dystiolaeth newydd mewn perthynas â rhaglen sgrinio genedlaethol.

Cafodd adroddiad y Pwyllgor ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ym mis Mawrth 2017.

Treial Cydweithredol y DU o Sgrinio am Ganser yr Ofari (UKTOCS)

Dechreuodd y treial yn 2001. Ei brif nod oedd gweld a oedd naill ai prawf gwaed CA125 neu sgan uwchsain drwy’r wain yn ddigon cywir i'w ddefnyddio fel prawf sgrinio. Cyhoeddwyd y canlyniadau tymor hir yn 2021.

Nid oedd y tîm yn argymell y dylid defnyddio’r prawf gwaed CA125 na’r sgan uwchsain drwy’r wain fel profion sgrinio ar gyfer canser yr ofari. Daethant i'r casgliad nad oedd sgrinio ar gyfer canser yr ofari gan ddefnyddio'r naill ddull na'r llall yn helpu pobl i fyw'n hirach.

2.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Pwyllgor yn nodi y dylid archwilio merched yr amheuir bod ganddynt symptomau canser, neu sydd â risg uchel o gael canser yr ofari, yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Mae’r canllawiau presennol yn dweud y dylai menywod sydd â symptomau canser yr ofari gael prawf gwaed CA125 er mwyn gweld a oes angen iddynt gael archwiliad uwchsain.  Fodd bynnag, gwneir hyn i ymchwilio i achosion lle mae amheuaeth glinigol y gallai fod gan fenyw ganser, yn hytrach na fel rhan o raglen sy’n sgrinio poblogaeth yn rheolaidd, gan nad yw’r prawf presennol yn ddigon cywir ar gyfer y diben hwnnw.

Mae’n dweud bod yr holl raglenni sgrinio asymptomatig ar gyfer poblogaethau’n seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a’u bod yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, ac mae’n cyfeirio at rôl Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UKNSC).  Fel y nodwyd eisoes, nid yw UKNSC ar hyn o bryd yn argymell y dylid sgrinio poblogaethau ar gyfer canser yr ofari. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud: 

Os bydd UKNSC yn newid ei argymhelliad, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellir rhoi hyn ar waith yng Nghymru.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.